pink sea fan tangled in fishing net Trawler

Effeithiau pysgota yn safleoedd morol Ewropeiadd y Deyrnas Unedig:

English version of Introduction

Mae'r adroddiad hwn yn diweddaru'r elfen o 'wybodaeth' sy'n rhan o'r broses gwneud penderfyniadau mewn perthynas â gweithgareddau pysgota yn safleoedd gwarchodedig Natura 2000. Defnyddir y cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n cael eu rhestru yn y Gorchymyn Cynefinoedd (1992) i lunio'r adroddiad, ond cynhwysir unrhyw gynefinoedd sy'n debygol o ddigwydd o fewn y diffiniadau o gynefinoedd a geir yn y Gorchymyn Cynefinoedd (sy'n gallu bod eang ar brydiau). Nid yw'r Gorchymyn Adar (1979) yn dynodi cynefinoedd penodol yn yr un modd â'r Gorchymyn Cynefinoedd, ond rhestrir nifer helaeth o rywogaethau. Felly, mae'r adroddiad hwn yn mynd i'r afael â'r effeithiau a gaiff pysgota ar ddau grŵp o adar: adar y môr, ac adar dŵr ac adar hirgoes.

Ers 1999, cafodd nifer o adroddiadau ac adolygiadau gwyddonol eu cyhoeddi sy'n disgrifio'r effaith a gaiff pysgodfeydd ar gynefinoedd a rhywogaethau morol. Yn benodol, cafodd nifer o lyfryddiaethau sy'n ymwneud ag effaith pysgodfeydd eu cynhyrchu ers 1999 a chyfeirir atynt yn yr arolwg hwn.

Mae'r adroddiad yn seiliedig ar Gubbay ∓ Knapman (1999). Mae'n ailadrodd rhywfaint o'r wybodaeth honno ond mae'n cynnwys deunydd disgrifiadol ac eglurhaol ychwanegol. Cafodd 86** erthygl arall eu hadolygu a'u hychwanegu at y 96 a gafodd eu dynodi a'u cyflwyno ar ffurf tabl yn adroddiad 1999. Erbyn hyn, mae'r set gyflawn o gyfeiriadau'n cael ei chadw mewn cronfa ddata a gynlluniwyd i ffurfio 'rhan olaf' Gwefan ryngweithiol. Mae'r wybodaeth hefyd wedi'i chofnodi ar ffurf tabl.

Cofnodwyd dros 50 o wahanol fathau o bysgota yn y gronfa ddata.

Mae dyframaethu yn cael ei gynnwys yn ogystal. Rhoddir disgrifiadau ar wahân o effeithiau pysgota ar gynefinoedd Atodiad I a rhywogaethau Atodiad II y Gorchymyn Cynefinoedd, a cheir adroddiad mwy cyffredinol ar gyfer rhywogaethau a restrir yn Atodiad IV y Gorchymyn Cynefinoedd, ac adar o’r Gorchymyn Adar.

Mae’r papurau a gafodd eu hadolygu yn dangos y gallai nifer o weithgareddau pysgota, o'u lleoli'n gyfrifol a'u rheoli'n briodol, gael effaith fach iawn ar rywogaethau a chynefinoedd sy’n bwysig o ran treftadaeth naturiol y mór. Yn benodol, mae offer sefydlog megis potiau neu gewyll a chasglu â llaw yn debygol o gael effaith fach o gymharu â defnyddio offer pysgota symudol. Mewn nifer o achosion, defnyddir dulliau pysgota sefydlog a symudol i dargedu’r un rhywogaeth. Yn achos y rhan fwyaf o fathau o bysgota, mae'n debygol y gellid dadwneud yr effeithiau niweidiol o fewn llai na blwyddyn, neu mewn ychydig flynyddoedd os yw'r pysgota'n digwydd yn anaml. Eto i gyd, hyd yn oed pan geir adferiad cyflym, gall y math o gymuned sy'n bresennol newid, yn enwedig drwy golli rhywogaethau sy'n byw ar wely'r môr, rhywogaethau sy'n byw'n hir a rhywogaethau sy'n tyfu'n araf. At hynny, mae cynnydd yn y rhywogaethau sy'n bwyta sborion a rhywogaethau manteisgar yn gyffredin mewn ardaloedd lle defnyddiwyd rhai mathau o offer pysgota symudol yn ddiweddar.

Yn gyffredinol, mae cynefinoedd sy'n fwy dynamig, lle ceir aflonyddu naturiol, rheolaidd yn gallu adfer eu hunain yn gynt. Er hynny, gall hyd yn oed y cynefinoedd hyn gynnwys rhywogaethau sy'n tyfu'n araf ac yn byw'n hir, nad ydynt yn gallu adfer eu hunain yn gyflym o'r niwed a achosir gan rai dulliau o bysgota. Mae'r niwed hirdymor i rywogaethau a chymunedau'n fwyaf tebygol o ddigwydd ar riffiau biogenig ac is-haenau caled. Gall yr effaith a gaiff gweithgareddau dyframaethu fod yn fach o gael eu lleoli'n sensitif er bod is-haenau o dan y cewyll dyframaethu yn debygol o newid ac yn aml mae dyframaethu'n gyfrifol am weld rhywogaethau nad ydynt yn rhai cynhenid yn symud i mewn i ardal ac ymledu.

Cafodd y rhan fwyaf o'r astudiaethau a adolygwyd eu cynnal mewn ardaloedd lle ceir ychydig o rywogaethau sensitif. Yn wir, os oedd rhywogaethau sensitif yn bresennol ar un adeg, mae'n bosibl eu bod wedi cael eu dinistrio gan offer ar wely'r môr cyn i ymchwil gael ei gynnal yn yr ardal. Mae rhai astudiaethau mwy diweddar wedi mynd i'r afael â'r effeithiau posibl neu wirioneddol ar rywogaethau neu gynefinoedd bregus sy'n annhebygol o gael eu hadfer yn gyflym, os o gwbl. Erys bylchau sylweddol o hyd yn y wybodaeth sydd gennym am yr effeithiau ar nifer o gynefinoedd a rhywogaethau a allai fod yn sensitif, gan gynnwys y rheiny mewn culforoedd, lle nad yw'r cynefinoedd o bosibl yn cael eu gwarchod gan y Gorchymyn Cynefinoedd, ac mae hyn yn rhwystro ymchwil i arferion pysgota sy'n niweidio ffawna a fflora sensitif. Wrth i fwy a mwy o benderfyniadau ynghylch gwarchod yr amgylchedd ddefnyddio'r dull 'ecosystem', mae'n bwysig nodi rhai o sgîl effeithiau pysgota ar yr ysglyfaeth sydd ar gael, cylchdroi maeth, addasu is-haenau a niwed cyfochrog i fuddiannau bywyd gwyllt ac ati.

Gubbay. S. & Knapman, P.A. 1999. A review of the effects of fishing within UK European marine sites. Peterborough: English Nature (UK Marine SACs Project). 134 pages.

Hiscock, K., & Sewell, J. 2005. Effects of fishing within UK European Marine Sites: guidance for nature conservation agencies. Report to the Countryside Council for Wales, English Nature and Scottish Natural Heritage from the Marine Biological Association. Plymouth: Marine Biological Association. CCW Contract FC 73-03-214A.

Images © Keith Hiscock and Dr Harvey Tyler-Walters.

© MarLIN 2006. | Accessibility